Skip to the content

Beth rydym yn ei wneud a pham 

Elusen sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i annog cariad at ddysgu ymysg plant yw Prifysgol y Plant. Rydym yn gwneud hyn drwy annog a dathlu cyfranogiad mewn gweithgareddau allgyrsiol yn yr ysgol a’r tu allan iddi. Profwyd bod effaith y gweithgareddau hyn yn gadarnhaol a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal a mynediad i blant o bob cefndir.

Yr angen am Brifysgol y Plant

Erbyn i blentyn droi'n 18 oed, dim ond 9% o'i fywyd ar ddihun y bydd wedi'i dreulio mewn ystafell ddosbarth. Mae Prifysgol Plant yn ymwneud â gwneud y gorau o'r 91% sy’n weddill.

Dengys ymchwil y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol gael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad, cynyddu adnabyddiaeth gadarnhaol disgybl gyda'r ysgol, a meithrin hunanhyder a gwydnwch. Mae ymchwil hefyd yn dangos bod plant nad oes ganddynt fynediad at y cyfleoedd hyn yn cwympo ar ei hôl hi, nad oes ganddynt hyder, ac maent yn methu datblygu dyheadau gyrfa. Mae'r bwlch cyrhaeddiad a ddaw yn sgil hynny mor sylweddol fel bod 25% o blant o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn cyflawni islaw'r lefelau cyrhaeddiad disgwyliedig.

Canlyniadau allweddol rydym am eu gweld ar gyfer pob plentyn

Ar gyfer pob plentyn sy'n cymryd rhan ym Mhrifysgol y Plant, rydym am gael y canlyniadau canlynol:

  • Teimlant eu bod wedi tyfu o ran hyder a hunangred
  • Maent wedi mwynhau profiadau newydd, mewn mannau newydd ac eisiau parhau i archwilio
  • Credant fod ganddynt ystod ehangach o sgiliau hanfodol
  • Teimlant eu bod wedi'u grymuso i wneud dewisiadau cadarnhaol am eu dyfodol
  • Gwelant ddysgu sy'n hwyliog, yn ddyheadol ac sy’n parhau trwy gydol oes
  • Teimlant fod eu llygaid wedi'u hagor i lu o weithgareddau a chyfleoedd dysgu
  • Maent yn teimlo eu bod yn cael eu dathlu am eu hymrwymiad i ddysgu gan eu teulu, eu hysgol a'u cymuned