Skip to the content

Ysgolion

Mae cymaint o resymau dros gael eich ysgol i gymryd rhan ym Mhrifysgol y Plant. Mae gan y SGA Brifysgol y Plant wedi'i rhestru fel prosiect addawol; mae ein ffocws ar weithgareddau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth yn addas iawn ar gyfer ffocws newydd Ofsted ar ddatblygu cymeriad; a gall ein platfform digidol, Prifysgol y Plant Ar-lein, gefnogi eich ysgol gyda datblygu sgiliau ac adrodd yn erbyn Meincnodau Gatsby. Gallem ymhelaethu.

A oes Prifysgol y Plant yn eich ardal chi?

Rhwydwaith o ganolfannau yw Prifysgol y Plant sy'n rheoli eu gweithgareddau'n lleol, gan gynnwys perthnasau ag aelod ysgolion. Os ydych chi'n ysgol sy'n awyddus i gofrestru, eich Prifysgol y Plant leol yw'r lle gorau i ddechrau pan ddaw'n fater o gymryd rhan, gan y gall ddweud wrthych sut mae’n rheoli aelodaeth a'r prosesau a'r costau cysylltiedig. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Prifysgol y Plant agosaf, defnyddiwch ein tudalen chwilio.

Beth os nad oes Prifysgol y Plant yn fy ardal i?

Os yw eich ysgol mewn ardal lle nad oes Prifysgol y Plant ar waith, gallwch gofrestru o hyd. Gallech gofrestru fel trwyddedai Prifysgol y Plant a chael yr holl offer sydd eu hangen arnoch i’w rhedeg yn eich ysgol neu eich ymddiriedolaeth aml-academi. Cysylltwch â Sonya Christensen a gofynnwch am 'Brifysgol y Plant mewn Blwch'.

Ddim yn ysgol?

Rydym yn gweithio gydag Ysgolion Rhithwir, Plant sy'n Derbyn Gofal ac mae gennym ffyrdd o weithio gyda sefydliadau AAA ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau). Os ydych am wybod mwy am sut y gallem gefnogi eich sefydliad, cysylltwch â ni.