Skip to the content

Prifysgol y Plant Ar-lein

Mae Prifysgol y Plant wrthi'n cyflwyno Prifysgol y Plant Ar-lein ar hyn o bryd – ein platfform digidol newydd sy'n lle ar-lein hwyliog, saff a diogel i gyfranogwyr gofnodi'r hyn maen nhw'n ei wneud. Bydd plant yn gallu defnyddio hyn law yn llaw â'u Pasbort i Ddysgu, gan gasglu stampiau yn eu pasbortau y gellir wedyn eu postio ar-lein lle byddant yn datgloi gwybodaeth ychwanegol am eu gweithgareddau.

Mae'n wych i blant a theuluoedd, ysgolion, ac mae'n ei gwneud yn haws i ddarparwyr dysgu ddilysu eu gweithgareddau.

I blant a theuluoedd

Bydd plant yn casglu codau stampiau yn eu Pasbort i Ddysgu y gallant eu hychwanegu ar-lein wedyn. Trwy ychwanegu eu codau at Brifysgol y Plant Ar-lein, byddant yn datgloi gwybodaeth bellach sy'n amlygu'r diddordebau a'r sgiliau y maent yn eu datblygu trwy gymryd rhan. Bydd gan bob plentyn ei ddangosfwrdd ei hun a fydd yn ei helpu i weld sut mae'n symud ymlaen tuag at y lefel gwobr nesaf, i fyfyrio ar y sgiliau mae'n eu datblygu ac i ddod o hyd i weithgareddau newydd. Mae hefyd fathodynnau unigryw ar-lein yn unig y gellir eu casglu rhwng camau graddio.

I ysgolion

Cyn gynted ag y bydd eu disgyblion wedi cofrestru, bydd ysgolion yn gallu monitro cyfranogiad ac adrodd ar y gweithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt, y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol. Bydd adroddiadau hawdd eu defnyddio y gellir eu hargraffu yn dangos pa gyfleoedd allgyrsiol sydd gan yr ysgol i'w cynnig i'w disgyblion, pa sgiliau sy'n cael eu datblygu yn unol â'r fframwaith Adeiladwr Sgiliau, a pha gategorïau dysgu sy'n boblogaidd a lle mae cyfle i ddatblygu. Bydd hefyd yn ffordd hawdd o fonitro nifer y gweithiau y mae eu disgyblion yn dod i gysylltiad â chyflogwyr ac amgylcheddau AB/AU yn unol â Meincnodau Gatsby.

 

I ddarparwyr dysgu

Os ydych chi'n cynnal gweithgareddau i blant a fyddai'n wych i Brifysgol y Plant yn eich barn chi, gallwch ddechrau'r broses ddilysu ar-lein. Cwblhewch y ffurflen ar-lein a bydd rhywun yn gallu cysylltu â chi i roi cod stamp i chi ar gyfer eich gweithgaredd a thrafod sut y gallwn annog plant i gymryd rhan.

Dilysu eich gweithgaredd